Lleoliad: O Bell
Dyddiad: Dydd Llun, 11 Gorffennaf 2022
Amser:
14.00 -
15.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12899
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jack Sargeant AS (Cadeirydd) Luke Fletcher AS Buffy Williams AS Altaf Hussain AS (yn lle Joel James AS) |
Tystion: |
Cheney Hamilton, Find Your Flex Yr Athro Abigail Marks, Prifysgol Newcastle Louisa Neale, The Future Generations Commissioner’s Office Will Stronge, Autonomy |
Staff y Pwyllgor: |
Gareth Price (Clerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Cafwyd ymddiheuriad gan Joel James AS.
Roedd Altaf Hussain AS yn bresennol yn y cyfarfod, yn dirprwyo ar ran Joel James AS.
2 Sesiwn dystiolaeth - P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Cheney Hamilton, Will Stronge, Louisa Neale a’r Athro Abigail Marks.
3 Deisebau newydd
3.1 P-06-1281 Rhaid atal gollyngiadau carthion amrwd ar fyrder ym Mae'r Twr Gwylio a'r Hen Harbwr yn y Barri.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y pryderon cynyddol am gyflwr ein hafonydd a’r camau gweithredu sy’n cael eu cymryd gan bwyllgorau’r Senedd, mewn cyfarfodydd llawn, gan Lywodraeth Cymru a Dŵr Cymru.
Cytunodd yr Aelodau i annog y deisebwyr i fynd ar drywydd y broses sydd ar waith gan Lywodraeth Cymru i bobl wneud cais i ddynodi ardaloedd newydd o ddyfroedd ymdrochi, a chytunwyd i rannu adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd. Wrth wneud hynny, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
4 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
4.1 P-05-924 Sicrhau bod Llysgenhadon Llesiant ym mhob ysgol yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, er y cytunodd yr Aelodau fod hwn yn fater pwysig iawn, maent yn derbyn bod Llywodraeth Cymru eisoes yn gwneud gwaith i wella'r strategaeth gwrth-fwlio. Cytunodd yr Aelodau nad oes llawer mwy y gallant ei wneud fel Pwyllgor, ond nodwyd y gallant godi ymwybyddiaeth fel unigolion o'r mater pwysig hwn a'r arfer da a rennir. Wrth gau’r ddeiseb, canmolodd yr Aelodau’r bobl ifanc am eu hymrwymiad a’u hymgysylltiad â’r Pwyllgor Deisebau drwy gydol y gwaith, gan gynnwys cyn-fyfyrwyr a myfyrwyr presennol, a gwnaeth y Pwyllgor eu llongyfarch ar y gwaith y maent yn ei wneud yn eu cymuned eu hunain.
4.2 P-06-1251 Dylid sicrhau’r hawl i fynediad o bell i bobl anabl a niwrowahanol
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ddiolch i CCAUC am ei ymatebion trylwyr i'r Pwyllgor a nododd, er bod gweithio o bell yn cynnig manteision, fod anfanteision i eraill hefyd. Mae’n pwysleisio y dylai prifysgolion weithio gyda'u myfyrwyr i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion yr holl fyfyrwyr. Wrth wneud hynny, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
4.3 P-06-1268 Dylid adolygu'r broses o ran statws ardaloedd wedi'u rhag-asesu ar gyfer tyrbinau ar y tir, sy'n rhoi unigolion dan anfantais annheg
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, o gofio bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir ei bod yn credu nad yw’r statws ardal wedi’i rhag-asesu yn rhoi unigolion dan anfantais, ac rydym hefyd wedi cael sicrwydd gan y Gweinidog y bydd y canllawiau’n cael eu diweddaru’n ddiweddarach eleni, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
4.4 P-06-1277 Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y cafodd ei thrafod yn angerddol yn y Senedd ar 29 Mehefin, ac mae’n cydnabod nad dyma’r ddadl gyntaf nac yn debygol o fod y tro olaf i’r mater pwysig hwn ddod gerbron y Senedd. Fodd bynnag, nid oes llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud ar hyn o bryd, gan ei fod wedi cynnal dadl ar y mater hwn eisoes. Cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb, a diolch i'r deisebydd am godi’r mater pwysig.
4.5 P-05-1086 Dylid creu Amgueddfa Genedlaethol ar gyfer Hanes a Threftadaeth Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd, er na fu dim cynnydd o ran dod o hyd i gartref parhaol ar gyfer y casgliad, ei fod gan Archifau Morgannwg ar hyn o bryd a bod modd i aelodau o’r cyhoedd ei weld o hyd. Yn sgil hyn, nid oes llawer mwy y gall y Pwyllgor ei wneud ar y mater, felly cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
Wrth wneud hynny, cytunodd yr Aelodau i ddiolch i'r Gyfnewidfa Treftadaeth a Diwylliant am ei hymateb meddylgar a dymuno'n dda iddi wrth chwilio am gartref tymor hir ar gyfer y casgliad yn y dyfodol.
4.6 P-06-1275 Galw ar y Llywodraeth i ail-ystyried eu penderfyniad i dynnu nôl o gynllun ffordd osgoi Llanbedr
Nodwyd y papur.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniwyd y cynnig.
6 Adroddiad drafft - P-06-1212 Cyfraith Mark Allen – rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru
Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad gyda rhai newidiadau mân.
7 Trafod y dystiolaeth - P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y sesiwn dystiolaeth a chytunodd i ddrafftio adroddiad byr ar y ddeiseb.
8 Dulliau o weithio
Myfyriodd y Pwyllgor ar ei waith eleni a thrafododd y camau nesaf ar gyfer tymor yr hydref.